Hanes sefydlu Cymdeithas Maes y Gad

CYMDEITHAS ACHUB BRYN GLAS - CYMDEITHAS MAES Y GAD

Tua diwedd Ebrill 2006, fe roddwyd tir Stad Pilleth yn Sir Faesyfed yn nwylo asiantwyr, i’w gwerthu am y pris uchaf mewn ocsiwn - ac roedd yn rhaid gwneud rhywbeth ar unwaith.

Roedd Lot 5 y gwerthiant yn cynnwys Bryn Glas - safle buddugoliaeth fawr Owain Glyndwr ar 22 Mehefin 1402 - safle un o’r brwydrau pwysicaf yn hanes Cymru.

Galwyd cyfarfod cyhoeddus gan Adrian Jones, John “the Rocks” Davies ac Albert Ward, yng Ngwesty’r Castell, Llandeilo ar 4 Mai, 2006 i drafod beth ellid ei wneud ynglyn â’r bygythiad posibl hwn i’n hetifeddiaeth genedlaethol.

Yn nhraddodiad gwych ein gwlad, fe benderfynodd y rhai oedd yn bresennol yn y cyfarfod ffurfio ‘Cymdeithas Achub Bryn Glas’ ac fe ffurfiwyd pwyllgor; fe gytunwyd ar gyfansoddiad, a phenderfynwyd ysgrifennu at enwogion Cymru, arweinwyr ariannol a chymwynaswyr eraill i ofyn am eu cymorth i godi arian er mwyn prynu’r safle. Ychydig iawn o amser oedd yna i gyrraedd y nod - roedd yn rhaid i’r cais fod gyda’r asiant cyn 12 Mehefin, cyfnod o ddim ond saith wythnos.

Fe ddechreuodd y cyfryngau a phobl oedd yn awyddus i ddiogelu a chadw ein hetifeddiaeth gymryd diddordeb yn y gwerthiant a’r ymdrech i achub y safle i’r genedl. Cafwyd cyfweliadau ar deledu’r BBC yn y ddwy iaith ac fe roddodd hynny hwb i’n hachos.
Roedd angen codi swm o tua £400,000 arnom, ac o fewn amser byr, yn dilyn yr ymgyrch, fe gawsom addewidion o £6,500 mewn symiau amrywiol hyd at £1,000.

Ar y dechrau roedd ganddom ddau gymwynaswr oedd wedi awgrymu yr hoffent brynu’r tir yn breifat, gan roi amser i’r Gymdeithas godi’r swm llawn er mwyn talu iddynt yn ddiweddarach ac felly drosglwyddo’r tir i ymddiriedolaeth er mwyn ei reoli a’i ddiogelu er budd y genedl. Wrth i’r dyddiad cau ddynesu, fodd bynnag, daeth yn amlwg nad oedd y cymwynaswyr hyn wedi llwyddo i roi eu cais i mewn erbyn Mehefin 12, mewn pryd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth agored.

Hyd y dydd heddiw ni wyddom pwy oedd y cymwynaswyr hyn, ond roeddem i gyd yn siwr fod eu cynnig yn un didwyll a gwirioneddol.
Fel mae’n digwydd, fe brynwyd y tir gan dirfeddiannwr cyfagos, ac mae’r drefn rheoli ar y safle wedi aros yr un fath - mae’r ffermwr presennol sy’n denant yn dal i bori ei ddefaid ar y cae ac mae hawl mynediad llawn i’r safle gyda chaniatâd caredig y perchennog. Roedd y canlyniad terfynol yn plesio pawb, ond beth am y gymdeithas?

Nid oedd popeth ar ben - fe ysgogodd yr ymgyrch nifer o gymdeithasau o fewn Fforwm Hanes Cymru i ddewis Bryn Glas fel thema arddangosfa’r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe - ac mae’r gymdeithas yn dal i fodoli.

Ar 23 Hydref 2006, daeth Cymdeithas Achub Bryn Glas yn ol ynghyd yn Llandeilo, yn wynebu’r dewis o chwalu neu ail-ffurfio. Fe gofnodwyd o leiaf 97 safle arall lle bu brwydr yng Nghymru, brwydrau a arweiniodd at newidiadau mawr yng nghwrs ein hanes. Gellir cyfrif ar un law faint o’r safleoedd hyn sydd wedi eu nodi gan gofeb. Nid oes dim i nodi hyd yn oed faes brwydr enwog Coed Llathen nac ychwaith y maes lle lladdwyd ein Llyw Olaf ger Llanfair ym Muallt.

Mae gan yr Alban a Lloegr eu ‘Hymddiriedolaethau Meysydd Brwydr’ eu hunain ac mae’r ddau yn awyddus i ni yng Nghymru hefyd gael ymddiriedolaeth yn gweithio er mwyn coffau’r meysydd brwydrau hyn.Mae nifer fawr o unigolion a grwpiau yma â diddordeb mewn coffau y safleoedd pwysig hyn, ond nid oes gennym eto Ymddiriedolaeth Meysydd Brwydrau Cymru.

Felly, ar Hydref 23, fe benderfynodd y rhai ohonom oedd yn bresennol ffurfio cnewyllyn ymddiredolaeth o’r fath ar gyfer diogelu a chofio ein meysydd brwydrau ein hunain, a byddem yn falch o ymuno gydag eraill i sicrhau fod hyn yn digwydd. Efallai y byddai pobl a hoffai ymuno â ni yn hoffi cysylltu â Sian Maredudd, yr ysgrifennydd presennol drwy yr awdur - John H. Davies.