Archive for the 'Newyddion' Category

Taith Brwydr Moel-y-Don

Saturday, November 3rd, 2007

Arweinwyr: Kathryn Gibson, Bryan Davies a John Davies

1. 12.30 Neuadd Pritchard Jones, Niwbwrch, Ynys Môn SH 425657

Bydd y cyfarfod byr yn cychwyn am 12.30p.m. gyda chinio yn dilyn, y tu mewn neu’r tu allan, yn dibynnu ar y tywydd .

2. tua. 13.30 Moel y Don SH 518677

Y pwynt croesi mwyaf amlwg yw o’r ty unllawr (lodge) ar bwynt SH 520680 i’r pwynt ar stad Bryn Adda SH 525681

a] yn lleol hwn yw’r croesiad culaf, lle mae’r afon yn 500m o led.  Pe bai’r styllod pren ar gyfer deciau’r cychod yn 10m o hyd, byddai angen 49 pontŵn. Mae hynny’n nifer sylweddol o gychod ac oriau gwaith y crefftwyr.  b] Ar yr ochr ddwyreiniol mae yna lecyn mawr, gwastad lle y gallai byddin y Saeson ymgynnull  c] Y tu ôl i’r llecyn yna mae llechweddau mwy serth lle y gallai byddin y Cymry fod wedi ymddangos, yn ôl y disgrifiad.  

3. tua. 3.15 Garth Celyn [Pen-y-bryn], Aber yn SH 659728

i bawb sy’n dymuno, mae gwahoddiad i ymweld â Garth Celyn, Abergwyngregyn, i weld hen gartref y tywysogion, fel gwesteion i Katherine a Brian Gibson. Yno, fe welir arddangosfa amlgyfryngol o’r frwydr, ynghyd â lluniaeth ysgafn.

Gweler y Datganiad i’r Wasg:

CYMDEITHAS MAES Y GAD

Fe ffurfiwyd Cymdeithas newydd ar 3 Mehefin, 2007, i goffau a chofnodi Meysydd Brwydrau Cymru ac ‘i ymchwilio i strategaethau a thactegau’r brwydrau’ (ar y 3ydd o Fehefin 1257 y bu buddugoliaeth fawr y Cymry yng Nghoed Llathen, Sir Gaerfyrddin).  Bydd ail gyfarfod y Gymdeithas dydd Sadwrn, 3ydd Tachwedd, i edrych ar safle Brwydr Moel y Don ar lannau’r Fenai ger Bangor, a ymladdwyd ar 6ed Tachwedd 1282.

Mae’r cyfarfod a’r trafodaethau ar agor i bawb.

Yn 1282, roedd Edward Longshanks, brenin Lloegr, wedi amgylchynnu Eryri gyda byddin enfawr.Yn Awst a Medi 1282, fe symudodd Edward garfan o filwyr i Ynys Môn.  Y bwriad oedd adeiladu pont o gychod i alluogi’r milwyr i groesi i’r tir mawr. 

Roedd pencadlys Llywelyn ap Gruffudd, a chanobwynt y gwrthryfel, yng NGARTH CELYN, Abergarthcelyn (Abergwyngregyn erbyn heddiw) ar arfordir gogleddol Gwynedd.

Fe wnaed gorchymyn gan Edward ar Fai 24 i Stephen o Penchester, warden Porthladdoedd Cinque, i ddewis 10 neu 12 o seiri cryfion, gyda’r sgiliau angenrheidiol i wneud cychod gwastad, ac i deithio i Gaer gyda’u harfau, i gyrraedd yno ddim hwyrach na Mehefin 23. Eu tasg oedd creu pont gyda chyfres o gychod wedi eu cyplysu â’i gilydd, gyda deciau o bolion ac adrannau gwastad oedd yn ddigon llydan i nifer fawr o filwyr fedru cerddod drostynt mewn colofn.

Fe roddwyd y cychod at ei gilydd yn Burton on the Wirral a’u tynnu dros y môr wedyn i Ruddlan, i’w cadw yno hyd nes y gellid eu symud i Fôn. Ar Awst 18 fe anfonwyd Luc de Tany, cyn ddistain Gwasgwyn (Gascony) i Fôn gyda chyfarwyddiadau i ‘ddarparu a gwneud pont yno.’  Rhwng 16 Awst a 15 Medi, fe brynodd Ralf o Broughton, derbynydd y brenin ym Môn, 14 o gychod i’w defnyddio i godi pont.  Ar 20fed Awst fe dalodd ceidwad y ‘Wardrobe’ £25 mewn cyflogau i seiri ‘cryf a heini’ o Borthladdoedd Cinque i fynd i weithio i Fôn.  Cofnodir ar 23 Awst fod Peirianydd o’r enw Master Richard a 60 o seiri wedi mynd i Fôn.  Ar 30 Awst fe aeth Master Henry o Rydychen â 100 arall yno.  (Nid oedd pob un o’r seiri hyn yn gweithio ar y bont ei hun; roedd rhai yn adeiladu stocadau, shediau ac ati)Wedi i’r gwaith gael ei gwblhau fe roddwyd casgenni o win i’r dynion i ddathlu.  Ar ben hynny, fe roddodd Luc de Tany rodd o ‘tun’ o win yr un i wardeiniaid y bont (custod pontem), Bartholomew Godard a Robert Pauline. Ar y 3ydd o Dachwedd fe deithiodd yr Archesob Pecham i Garth Celyn i gynnal trafodaethau rhwng y Tywysog Llywelyn a Longshanks.  Fe arhosodd tan 6ed Tachwedd.  Yn ystod yr amser hwnnw, fe drefnwyd cadoediad.  Fe gynigiwyd llwgrwobr i Lywelyn – mil o bunnau y flwyddyn a stad yn Lloegr os byddai’n ildio ei deyrnas a’i bobl i goron Lloegr.  Gwrthodwyd y cynnig hwn yn llwyr gan Lywelyn.Yn gynnar ar fore’r 6ed o Dachwedd, gyda’r cadoediad yn dal yn ei le, a heb awdurdod Longshanks, fe arweiniodd Luc de Tany ei ddynion ar draws y bont gychod. Roedd byddin y Cymry yn aros ac yn gwylio popeth o’r tir mawr, uwchlaw Moel y Don.  Arhosodd y Cymry am yr eiliad iawn, cyn rhuthro i lawr a gorfodi’r milwyr estron yn ôl dros eu pont.  Erbyn hynny roedd y llanw wedi troi; yng nghanol y brys a’r dryswch wrth i ddynion a cheffylau geisio ffoi, fe sigodd y bont a throi drosodd. Boddwyd Luc de Tany, un ar bymtheg o farchogion a sgweieriaid, Godard y warden a 300 o filwyr troed. Roedd hon yn fuddugoliaeth ysgubol i’r fyddin Gymreig. Fis yn ddiweddarach, ar 11 Rhagfyr 1282, fe ddenwyd Llywelyn i fagl a’i lofruddio.Pont Gychod: Moel-y-Don, Ynys Môn i’r Felinheli, Gwynedd.

Y cyfarfod cyntaf yn Llangathen, Sir Gaerfyrddin

Sunday, June 3rd, 2007

Daeth pobl ynghyd o bob rhan o Gymru a rhai hefyd o’r ochr arall i’r ffin yn Lloegr ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd dydd Sul 3ydd Mehefin yn neuadd bentref Llangathen, Sir Gaerfyrddin.testtest

Fe ymladdwyd brwydr Coed Llathen ar 2il Mehefin 1257 ac fe drefnwyd y cyfarfod yn arbennig er mwyn cyd-daro mor agos â phosibl ag wyth canmlwyddiant a hanner y frwydr.

Ar ôl ymgynnull yn y neuadd bentref fe gerddwyd i lecyn gerllaw lle gellid gweld maes y frwydr orau ac fe drafodwyd tactegau tebygol y frwydr, cyn ymweld â rhai o’r llefydd a gysylltir â’r lladdfa fawr [brwydr Coed Llathen/Cymerau].

Ar ôl cinio cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod yr angen am Gymdeithas ar gyfer meysydd brwydr Cymru yn neuadd bentref Llangathen. Yn gyntaf, fe esboniwyd hanes grwp ymgyrchu Achub Bryn Glas gan y Cadeirydd Albert Ward, a thrafodwyd y posibiliadau ar gyfer y dyfodol.

Penderfynodd y rhai oedd yn bresennol i ffurfio Cymdeithas Maes y Gad ac i weithio gyda chyrff eraill yng Nghymru oedd â diddordeb a chyda Chymdeithas y Cwlwm Cêl ac Ymddiriedolaethau Meysydd Brwydr Lloegr a’r Alban i ledaenu gwybodaeth am y meysydd brwydr hyn ac i’w coffau.